Over 1549 jobs live right now. Start searching to find your next job today.

Welsh-speaking volunteer

Cardiff, Cardiff (On-site)
Unpaid role, expenses not paid
Voluntary

Actively Interviewing

This organisation is scheduling interviews as applications come in. They're ready to hire as soon as they find the right person. Don't miss your opportunity, apply now!

Job description

We are currently in the process of establishing a Welsh-language service to allow fluent Welsh speakers to discuss their case in their preferred language. As a result, we need more Welsh-speaking volunteers to join our charity and help support the Welsh-speaking community. Please note, our Welsh-language services are available on Thursdays and Fridays only.

Gwirfoddolwyr Cymraeg

Rydym ar hyn o bryd yn y broses o sefydlu gwasanaeth Cymraeg er mwyn i siaradwyr Cymraeg rhugl allu trafod eu hachos yn eu hiaith ddewisol. O ganlyniad, rydym angen mwy o wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg i ymuno â’n elusen ac ein helpu i gefnogi’r gymuned Gymraeg. Sylwch, mae ein gwasanaethau Cymraeg ar agor ar ddydd Iau a dydd Gwener yn unig.

 

Hysbyseb Rôl

Allwch chi helpu unigolion sy’n wynebu’r llys yn annibynnol?

Ydych chi'n wrandawyr da gyda'r gallu i gynnig cymorth hanfodol yn y Gymraeg? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n siarad Cymraeg I ymuno a'n tim a chynnig cymorth ymarferol ac emosiynol hanfodol i bobl sy’n mynd trwy’r system llysoedd sifil a theuluol heb gynrychiolaeth gyfreithiol.

Pwy Ydyn Ni?

Pob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn y DU yn wynebu’r llys ar eu pen eu hunain. Heb gymorth, mae’n rhaid i unigolion gynrychioli eu hunain wrth fynd trwy un o gyfnodau anoddaf eu bywyd, megis wynebu ysgariad, ceisio sicrhau gofal eu plant, neu wynebu cael eu troi allan o’u cartref. Mae gormod o bobl yn cael eu gadael mewn penbleth, wedi’u gorfodi i lywio system gyfreithiol gymhleth ar eu pennau eu hunain

Rydym yn sefyll ochr yn ochr â phobl sy'n teimlo nad oes ganddynt unman arall i droi. Rydym yn darparu gwasanaeth am ddim ledled Cymru a Lloegr, gan gynnig cymorth ac arweiniad cyn, yn ystod, ac ar ôl achos llys. Rydym yn sicrhau nad yw pobl sy'n wynebu'r llys ar eu pennau eu hunain, gan archwilio'r agweddau ymarferol ac yn eu paratoi i wynebu'r llys ag urddas a hyder.

Gall cymorth ein gwirfoddolwyr gael effaith uniongyrchol ar ganlyniad achos ein cleientiaid ac ar weddill eu bywydau. Wedi’i deilwra i bob unigolyn, mae ein gwirfoddolwyr yn darparu cymorth eang, megis cynnig gwybodaeth cyfreithiol, esbonio beth fyddai’n digwydd yn y llys, helpu pobl i lenwi ffurflenni cyfreithiol cymhleth, a’u cefnogi wrth iddynt gynllunio’r hyn yr hoffent ei ddweud wrth y barnwr.

Credwn fod gan bawb yr hawl i wrandawiad teg, ac rydym yn credu y dylai'r unigolion a'r teuluoedd sy'n chwilio am gymorth yn teimlo eu bod yn cael eu gwrando a’u deall. Ni ddylai unrhyw un wynebu'r llys ar ei ben ei hun. 

Ein Gwerthoedd

Canolbwyntiedig ar Gleientiaid: Rydym yn dilyn arweiniad ein cleientiaid.

Ymrwymedig: Rydym yn deall bod ein gwaith yn bwysig, ac mae ein tîm medrus wedi’u hymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel.

Ymddiriedig: Rydym yn sicrhau ein bod yn haeddu'r hyder a roddir inni gan y bobl rydym yn gweithio gyda.

Parchus: Rydym i gyd yn gofalu am ein gilydd ac yn cymryd yr amser i siarad yn agored ac yn onest gyda phawb rydym yn gweithio gyda.

Croesawgar: Rydym yn agored i wahaniaethau a chyfleoedd i ddysgu, ac yn annog syniadau gan eraill.

Ein Gwirfoddolwyr

Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig, gofalgar sydd ag sgiliau cryf o ran datrys problemau, i ymuno â ni i sicrhau na fydd unrhyw un yn wynebu'r llys ar eu pen eu hunain. Dan gefnogaeth un o'n Rheolwyr Gwasanaeth, byddwch yn ymuno â thîm o wirfoddolwyr yng Nghaerdydd, gan helpu pobl trwy:

  • Esbonio sut mae'r broses llys yn gweithio
  • Helpu cleientiaid i lenwi ffurflenni llys, paratoi datganiadau a threfnu dogfennau llys
  • Helpu cleientiaid i gynllunio’r hyn yr hoffent ei ddweud yn y llys
  • Mynychu gwrandawiadau llys gwyneb yn wyneb/o bell

Mae profiad cyfreithiol yn werthfawr, ond nid yw'n hanfodol. Rydym yn chwilio am bobl sydd â'r empathi, y menter, a'r ymrwymiad i ddod o hyd i ddatrysiad. Nid ydym yn cynnig cyngor cyfreithiol, ac ble bynnag y gallwn, byddwn yn cyfeirio cleientiaid at sefydliad perthnasol arall.

Sut byddwn yn eich cefnogi

Rydym yn elusen sy’n cael ei pharchu, ac mae gwirfoddolwyr yn chwarae rôl allweddol yn ein gwaith. Byddwch yn gweithio gyda'r Rheolwr Gwasanaeth a fydd yn rhoi hyfforddiant i chi. Byddwch chi byth yn gweithio ar eich pen eich hun, byddwch bob amser yn derbyn cefnogaeth gan dîm o gydweithwyr. Rydym yn chwilio am bobl sy'n gallu gwirfoddoli am o leiaf 2 ddiwrnod y mis, am gyfnod cychwynnol o 8-12 mis. Rydym yn agored i fod yn hyblyg. Sylwch, dim ond ar ddydd Iau a dydd Gwener rydym yn cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Disgrifiad Rôl

Rydym yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli gwyneb yn wyneb neu o bell (dros y ffôn/fideo).

Mae'r rhestr isod yn cynnwys rhai enghreifftiau o’r math o dasgau y byddwch yn eu cyflawni fel gwirfoddolwr:

·        Cwrdd â chleientiaid wyneb yn wyneb neu dros y ffôn a gwrando arnynt yn esbonio eu hachos.

·        Egluro gweithdrefnau’r llys a helpu cleientiaid i gynllunio eu camau nesaf.

·        Helpu cleientiaid i ddeall papurau llys, llenwi ffurflenni (ar-lein ac/neu ar bapur), ysgrifennu datganiadau a chwblhau gwaith papur arall sy’n gysylltiedig a’u hachos.

·        Helpu cleientiaid gyda chynllunio’r hyn maen nhw am ddweud yn y llys, e.e. helpu i strwythuro eu meddyliau, ysgrifennu nodiadau, ayb.

·        Mynychu gwrandawiadau gyda chleientiaid a’u helpu i ddeall beth sydd rhaid iddyn nhw wneud nesaf.

·        Cyfrannu at brosiectau sydd â'r nod o wella’r ffordd rydyn ni’n helpu ein cleientiaid.

·        Codi arian ar gyfer yr elusen.

Priodweddau/Profiadau

·        Person cydweithredol

·        Y gallu I gyfathrebu yn y gymraeg

·        Profiad o weithio gyda’r cyhoedd

·        Sgiliau gwrando a chyfathrebu rhagorol

·        Sgiliau trefnu a datrys problemau rhagorol

·        Sgiliau TG, ac/neu’r barodrwydd i ddysgu ein systemau

·        Profiad o ddelio â sefyllfaoedd heriol

 

Nodweddion Dymunedig

• Profiad sylfaenol o'r llys teulu a llys sifil

• Profiad o weithio neu wirfoddoli yn y trydydd sector

Posted by
Support Through Court View profile Organisation type Registered Charity Company size 21 - 50
Refreshed on: 02 January 2025
Closing date: 30 January 2025 at 13:43
Tags: Legal / Law, Justice, Wellbeing