Engineer / Peiriannydd

Cardiff, Cardiff (Hybrid)
£32,145 per year
Full-time
Permanent
Job description

Engineer

(Wales)

£32,145 per annum (pro rata for part time hours)

(Ref: SUS4266s)

Full Time 37.5 hours per week – happy to talk flexible working

Base: Hybrid with the flexibility to work from Cardiff hub or home based anywhere in Wales 

About the role

This is an exciting opportunity to join Sustrans Cymru. We are looking for an Engineer, to support in the delivery of our innovative programme of people-focused street and route design.

As a transport charity, the focus of the work will be the integration of Placemaking as an integral part of Active Travel infrastructure projects. The principle objective of these projects will be to encourage higher levels of walking and cycling and the creation of equitable and accessible environments for all. 

You will be part of a multi-disciplinary design and engineering team, working closely with partners including the Welsh Government, Transport for Wales, Welsh Local Authorities and diverse communities across Wales.

This role will require travel and work at locations as necessary to undertake projects on behalf of Sustrans.

We offer true hybrid working, a flexible mix of working from home and occasional travel to a nearby office hub.

 

About you

You should have experience of project management of small defined projects relating to the design of the built environment.

A degree in Civil Engineering, Urban Design, Architecture, Town Planning, Traffic/Highways Engineering, Landscape Architecture or other degree related to the built environment (or other equivalent experience).

Experience in the production of technical drawings and specifications using design software, as well as experience of supervising and mentoring colleagues. 

You will be skilled in demonstrating openness, inclusiveness, sensitivity and the ability to interact respectfully with all people and understand individuals’ differences.

You will have a knowledge of inclusive design: understanding the relationship between streets and social justice and an ability to develop creative design engagement exercises suitable for a variety of audiences including school children.

Sustrans has a long-term commitment to being a charity for everyone - reducing inequality, valuing diversity, enabling inclusion and ensuring all people are treated with dignity and respect. We aim to be a truly inclusive employer and welcome applications from people from all parts of the community, in particular from under-represented groups. 

 

What we offer

In return we can offer true hybrid working to suit individual circumstances and a flexible, supportive and rewarding working environment. 

Wellbeing

  • 28 days’ leave per annum plus bank holidays for full-time working
  • Ability to buy an extra week of annual leave (pro-rata for part-time staff)
  • Staff volunteer days
  • 24/7 free, impartial and confidential support service
  • We are members of the Green Commute Initiative and Cycle Scheme who both offer cycle to work schemes

Financial

  • Group Personal Pension scheme with a 6% or 7% of basic salary contribution being matched by Sustrans
  • Bike, computer and season ticket loans
  • Discount benefits
  • London Weighting Allowance of £4,530 for all those living within a London Borough (32 local authority districts plus the City of London)
  • Death in Service benefit – 3 x annual Salary

Family Friendly

  • Enhanced maternity and paternity pay
  • Flexible Working practices (full time hours are 37.5 per week, Monday - Friday)

 

Additional information

  • Closing date for the receipt of completed applications is 23:59, 14 August 2024
  • Interviews will take place via MS Teams during the 27th or 28th August 2024

 

About Sustrans

At Sustrans you'll be part of a movement to make it easier for people to walk and cycle. 

We're all here to change things! You’ll be part of an incredible community of talented, passionate, creative, problem solvers all working together to change things for the better. We act locally and think big - we have a vision of a society where the way we travel creates healthier places and happier lives for everyone.

You'll be questioning the status quo and daring to imagine a different world. You'll work on exciting, impactful projects that will stretch and empower you and you'll be rewarded by seeing the difference you make to people, communities and the planet. 

 We believe including everyone is central to who we are and what we want to achieve, we welcome difference and pride ourselves on creating a culture where you can be yourself and where your wellness is supported. 

You'll be guaranteed to make friends for life and work with a team that is incredibly flexible, supportive, ethical and fun.  

 

Peiriannydd 

(Cymru)

£32,145 y flwyddyn (pro rata ar gyfer oriau rhan-amser)

(Cyf: SUS4266s)

Amser Llawn 37.5 awr yr wythnos – yn fodlon trafod trefniadau gweithio’n hyblyg

Sylfaen: Hybrid – gyda’r hyblygrwydd i weithio o'r ganolfan yng Nghaerdydd neu gartref yn unrhyw le yng Nghymru 

Gair am y swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Sustrans Cymru. Rydym yn chwilio am Beiriannydd i gefnogi’r gwaith o ddarparu ein rhaglen arloesol o ddylunio strydoedd a llwybrau sy’n canolbwyntio ar bobl.

Fel elusen drafnidiaeth, bydd y gwaith yn canolbwyntio ar integreiddio Creu Lleoedd fel rhan annatod o brosiectau seilwaith Teithio Llesol. Prif amcan y prosiectau hyn fydd annog lefelau uwch o gerdded a beicio a chreu amgylcheddau teg a hygyrch i bawb. 

Byddwch chi’n aelod o dîm dylunio a pheirianneg amlddisgyblaethol sy’n gweithio’n agos gyda phartneriaid fel Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Awdurdodau Lleol Cymru, a chymunedau amrywiol ledled Cymru.

Bydd y swydd hon yn golygu teithio a gweithio mewn lleoliadau yn ôl yr angen i ymgymryd â phrosiectau ar ran Sustrans.

Rydym yn cynnig cyfleoedd gweithio hybrid go iawn, cymysgedd hyblyg o weithio gartref a theithio i swyddfa gyfagos o bryd i’w gilydd.

 

Gwybodaeth amdanoch chi

Dylech chi fod â phrofiad o reoli prosiectau bach diffiniedig sy’n ymwneud â dylunio’r amgylchedd adeiledig.

Gradd mewn Peirianneg Sifil, Dylunio Trefol, Pensaernïaeth, Cynllunio Trefol, Peirianneg Priffyrdd/Traffig, Pensaernïaeth Tirwedd, neu radd arall sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd adeiledig (neu brofiad cyfatebol arall).

Profiad o greu lluniadau a manylebau technegol gan ddefnyddio meddalwedd dylunio, yn ogystal â phrofiad o oruchwylio a mentora cydweithwyr. 

Byddwch chi’n fedrus o ran dangos eich bod yn agored, yn gynhwysol, yn sensitif, a byddwch chi’n gallu rhyngweithio’n barchus â phawb a deall gwahaniaethau rhwng unigolion.

Bydd gennych chi wybodaeth am ddylunio cynhwysol: yn deall y berthynas rhwng strydoedd a chyfiawnder cymdeithasol a’r gallu i ddatblygu ymarferion ymgysylltu sy’n ymwneud â dylunio creadigol sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys plant ysgol.

Mae gan Sustrans ymrwymiad hirdymor i fod yn elusen i bawb – gan leihau anghydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth, galluogi cynhwysiant a sicrhau bod pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch. Ein nod yw bod yn gyflogwr gwirioneddol gynhwysol ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, yn enwedig o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. 

Dyma rydym yn ei gynnig

Gallwn ni gynnig cyfleoedd gweithio gwirioneddol hybrid sy’n addas i’ch amgylchiadau chi ac amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol sy’n rhoi boddhad. 

Llesiant

  • 28 diwrnod y flwyddyn o wyliau yn ogystal â gwyliau banc os ydych chi’n gweithio’n llawn amser
  • Y gallu i brynu wythnos ychwanegol o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer staff rhan-amser)
  • Diwrnodau gwirfoddoli i staff
  • Gwasanaeth cymorth diduedd a chyfrinachol yn rhad ac am ddim 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
  • Rydym yn aelodau o’r Green Commute Initiative a'r Cycle Scheme sy’n cynnig cynlluniau beicio i’r gwaith

Ariannol

  • Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda chyfraniad cyflog sylfaenol o 6% neu 7% a chyfraniad cyfatebol gan Sustrans
  • Benthyciadau ar gyfer beiciau, cyfrifiaduron a thocynnau tymor
  • Buddion o ran gostyngiadau
  • Lwfans Pwysoliad Llundain o £4,530 i bawb sy'n byw mewn Bwrdeistref yn Llundain (32 ardal awdurdod lleol a Dinas Llundain)
  • Budd-dal Marw yn y Swydd – 3 x cyflog blynyddol

Ystyriol o Deuluoedd

  • Tâl mamolaeth a thadolaeth uwch
  • Arferion Gweithio’n Hyblyg (yr oriau llawn amser ydy 37.5 yr wythnos, dydd Llun - Gwener)

 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi’u llenwi yw 23:59, 14 Awst 2024.
  • Cynhelir y cyfweliadau drwy gyfrwng MS Teams ar 27 neu 28 Awst 2024.

 

Gwybodaeth am Sustrans

Yn Sustrans, byddwch chi’n rhan o fudiad sy’n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio. 

Rydym ni i gyd yma i newid pethau! Byddwch chi’n rhan o gymuned anhygoel o bobl dalentog, angerddol, greadigol, sy’n datrys problemau, pob un yn gweithio gyda’i gilydd i newid pethau er gwell. Rydym yn gweithredu’n lleol ac mae gennym syniadau mawr. Ein gweledigaeth yw cymdeithas lle bydd y ffordd rydym yn teithio yn creu lleoedd iachach a bywydau hapusach i bawb.

Byddwch chi’n herio’r drefn bresennol ac yn ddigon dewr i ddychmygu byd gwahanol. Byddwch chi’n gweithio ar brosiectau cyffrous sy’n cael dylanwad mawr ac a fydd yn eich ymestyn a’ch grymuso, a’ch gwobr fydd gweld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud i bobl, cymunedau a’r blaned. 

 Rydym yn credu bod cynnwys pawb yn rhan ganolog o bwy ydym ni a beth rydym ni am ei gyflawni. Rydym yn croesawu gwahaniaethau ac yn ymfalchïo mewn creu diwylliant lle cewch fod yn chi eich hun a lle mae eich llesiant yn cael ei gefnogi. 

Byddwch chi’n siŵr o wneud ffrindiau am oes a gweithio gyda thîm sy’n hynod o hyblyg, cefnogol, moesegol a hwyliog.  

 

Posted by
Posted on: 23 July 2024
Closing date: 14 August 2024 at 23:30
Job ref: 250198CHJEN
Tags: Environment / Animal