Administrator

St Giles Trust
Cardiff (On-site)
Newport, Newport
Swansea, Swansea
£20,000 pa
Full-time
Contract (Fixed Term Until 31st March 2025 / Full Time)

Actively Interviewing

This organisation is scheduling interviews as applications come in. They're ready to hire as soon as they find the right person. Don't miss your opportunity, apply now!

Job description

Based at St Giles offices across Wales

Ref PWA-241

Are you a proactive, efficient and collaborative individual with a proven record of working in services providing administrative support in a busy, pressurised environment?  Do you have experience of working in services which provide support to people who have faced adversity and disadvantage? 

If so, St Giles is looking for a highly motivated Personal Wellbeing Administrator to join our team and provide vital administrative support to teams across one or more contracts awarded by the HMPPS to deliver Personal Wellbeing services in Wales.

About St Giles Trust
An ambitious, well-established charity that helps people facing adversity to find jobs, homes and the right support they need.  Central to our ethos is our belief that people with first-hand experience of successfully overcoming issues such as an offending background, homelessness, addictions and gang involvement, hold the key to positive change in others.  

Who are we?
St Giles is an award-winning social justice charity using expertise and real-life past experiences to empower people who are not getting the help they need. People held back by poverty, exploited, abused, dealing with addiction or mental health problems, caught up in crime or a combination of these issues and others. We show people there is a way to build a better future for themselves and those they care about and help them create this through support, advice, and training. Our peer-led services form the backbone of our work, putting people with lived experience at the centre of delivery, design, and evaluation of support and services across the UK.

The Wise Group is a leading social enterprise which is proud to be making a difference to people’s lives. We’re proud because we help people to find jobs, provide advice to people struggling to heat their homes and support people to find their feet following time in prison. To do this, the Wise Group works in partnership with everyone from large businesses to national and local government and third sector organisations who provide essential specialist support to our customers. Together, we’re greater than the sum of our parts.

The Wise Group and St Giles came together a few years ago to form a partnership with the aim of supporting the Probation Resettlement reforms by offering a high-quality service underpinned by staff who have lived experience and cultural competency. To date we have been awarded more than 20 contracts to deliver Personal Wellbeing, Finance, Benefit & Debt and Women’s Services across England and Wales.

About this key role

Our successful candidate will monitor and manage the receipt of referrals from Probation through the Customer Approved System (CAS) ensuring they are successfully assigned to Personal Wellbeing Coaches using the appropriate guidance and process, ensure all inputting is accurate and within agreed timescales, plus provide regular activity reports to the Personal Wellbeing Manager.  You will be the primary point of contact for all enquiries, external and internal to ensure communication channels are clear and effective, while also liaising with external stakeholders (e.g. Prisons), delivery partners, spot purchase providers and other agencies to arrange appointments, referrals, and generally ensure information exchanged is done in a clear, timely and effective manner.

Developing and maintaining an Estates log and diary to ensure the team always have an approved site to meet service users in mandated locations when needed and providing administration for meetings, including bookings, invitations and minute-taking, are also vital duties.   

What we are looking for

  • Experience of managing Customer Relationship Management systems, including inputting data and creating reports
  • An understanding of the barriers faced by people with complex and multiple needs
  • Knowledge of Trauma Informed practice and how to apply it in supporting service users
  • Ability to develop and maintain means by which compliance with policy and procedure can be effectively monitored and reported on, including financial expenditure
  • Impressive prioritisation relationship-building and interpersonal abilities
  • First-class communication skills, both verbal and written
  • A flexible, collaborative and professional approach to your work.

Please note this role requires that successful candidates must undergo an Enhanced Adult Only DBS check, on the basis that the post involves contact with vulnerable participants and colleagues.

In return, you can expect a competitive salary, generous leave allowance, staff pension, flexible working, a mentoring programme, an advice and counselling service, clinical therapist sessions, life insurance (4 x annual salary), duvet days, season ticket loan, employee perks programme, eye care voucher and much more.

We are an equity and inclusion confident employer. We welcome all applications, and we particularly encourage applications from people of the global majority (black, brown, multi- heritage) and those who identify as disabled, neuroexpansive, neurodiverse, with any protected characteristics and/or social barriers or challenges. We value the empowering and informative impact that all lived experiences and diversity of thought can offer the organisation.

St Giles will guarantee to interview all disabled applicants who meet the minimum criteria set out in the Job Description for the vacancy.

Closing date: 07th July 2024. 11:00pm         Interview date: 12th July 2024  

Cyf:

A ydych chi'n unigolyn rhagweithiol, effeithlon a chydweithredol gyda hanes profedig o weithio mewn gwasanaethau sy'n darparu cymorth gweinyddol mewn amgylchedd prysur ac anodd?  A oes gennych chi brofiad o weithio mewn gwasanaethau sy'n rhoi cymorth i bobl sydd wedi wynebu helbulon ac anfantais? 

Os felly, mae St Giles yn chwilio am Weinyddwr Lles Personol brwdfrydig iawn i ymuno â'n tîm a darparu cymorth gweinyddol hanfodol i dimau ar draws un neu fwy o gytundebau a ddyfarnwyd gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS) i ddarparu gwasanaethau Lles Personol yng Nghymru.

Ynghylch Ymddiriedolaeth St Giles
Elusen uchelgeisiol, wedi’i hen sefydlu sy’n helpu pobl sy’n wynebu helbulon i ddod o hyd i swyddi, cartrefi a’r gefnogaeth gywir yw Ymddiriedolaeth St Giles.  Yn ganolog i’n hethos yw ein cred bod pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o oresgyn problemau, megis cefndir troseddol, digartrefedd, dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol a bod yn aelod o gang, yn allweddol i sicrhau newid positif mewn eraill.  

Pwy ydym ni?
Mae St Giles yn elusen cyfiawnder cymdeithasol arobryn sy'n defnyddio arbenigedd a phrofiadau go iawn o’r gorffennol i rymuso pobl nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Pobl sy'n cael eu dal yn ôl gan dlodi, wedi'u hecsbloetio, eu cam-drin, sy’n delio â dibyniaeth neu broblemau iechyd meddwl, sy’n gaeth i drosedd neu gyfuniad o'r materion hyn ac eraill. Rydym yn dangos i bobl fod modd creu adeiladu dyfodol gwell iddynt hwy eu hunain a'r rhai y maent yn poeni amdanynt ac yn eu helpu i greu’r dyfodol hwn drwy gymorth, cyngor a hyfforddiant. Mae ein gwasanaethau dan arweiniad cymheiriaid yn cynrychioli asgwrn cefn ein gwaith, gan roi pobl â phrofiad personol wrth wraidd cyflwyno, dylunio a gwerthuso cefnogaeth a gwasanaethau ledled y DU.

Mae'r The Wise Group yn fenter gymdeithasol flaenllaw sy'n falch o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rydym yn falch o'r ffaith ein bod yn helpu pobl i ddod o hyd i swyddi, yn rhoi cyngor i bobl sy'n ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi ac yn cefnogi pobl i gael eu traed tanynt yn dilyn cyfnod yn y carchar. I wneud hyn, mae'r The Wise Group yn gweithio mewn partneriaeth â phawb, gan gynnwys busnesau mawr, llywodraeth genedlaethol a lleol a sefydliadau trydydd sector sy'n darparu cefnogaeth arbenigol hanfodol i'n cwsmeriaid. Gyda'n gilydd, rydym yn fwy na chyfanswm ein rhannau.

Daeth The Wise Group a St Giles at ei gilydd rai blynyddoedd yn ôl i ffurfio partneriaeth gyda'r nod o gefnogi'r diwygiadau Ailsefydlu Prawf drwy gynnig gwasanaeth o ansawdd uchel wedi'i ategu gan staff sydd â phrofiad personol a chymhwysedd diwylliannol. Hyd yn hyn rydym wedi derbyn mwy nag 20 o gytundebau i ddarparu Gwasanaethau Lles Personol, Cyllid, Budd-dal a Dyled a Menywod ledled Cymru a Lloegr.

Ynghylch y rôl allweddol hon

Bydd ein hymgeisydd llwyddiannus yn monitro ac yn rheoli derbyn atgyfeiriadau gan y Gwasanaeth Prawf drwy'r System Cymeradwyedig Cwsmeriaid (CAS) gan sicrhau eu bod yn cael eu haseinio'n llwyddiannus i Hyfforddwyr Lles Personol gan ddefnyddio'r canllawiau a'r broses briodol a sicrhau bod yr holl fewnbynnu yn gywir ac o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt, ynghyd â darparu adroddiadau gweithgaredd rheolaidd i'r Rheolwr Lles Personol.  Chi fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer pob ymholiad, allanol a mewnol i sicrhau bod sianeli cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol, tra hefyd yn cysylltu â rhanddeiliaid allanol (e.e. carchardai), partneriaid cyflenwi, darparwyr prynu ar y pryd ac asiantaethau eraill i drefnu apwyntiadau, atgyfeiriadau, ac yn gyffredinol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfnewid mewn modd clir, amserol ac effeithiol.

Mae datblygu a chynnal log a dyddiadur Ystadau i sicrhau bod gan y tîm safle cymeradwy bob amser i gwrdd â defnyddwyr gwasanaeth mewn lleoliadau mandadol pan fo angen a gweinyddu cyfarfodydd gan gynnwys bwcio stafelloedd, gyrru gwahoddiadau a chymryd cofnodion, hefyd yn ddyletswyddau hanfodol.   

Yr hyn rydym yn chwilio amdano

  • Profiad o reoli systemau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid gan gynnwys mewnbynnu data a chreu adroddiadau
  • Dealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ag anghenion cymhleth a lluosog
  • Gwybodaeth o ymarfer Trawma Gwybodus a sut i'w gymhwyso wrth gefnogi defnyddwyr gwasanaeth
  • Y gallu i ddatblygu a chynnal dulliau y gellir monitro ac adrodd ar gydymffurfiaeth â pholisi a gweithdrefn yn effeithiol â nhw gan gynnwys gwariant ariannol
  • Sgiliau blaenoriaethu, adeiladu perthynas a galluoedd rhyngbersonol trawiadol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Dull hyblyg, cydweithredol a phroffesiynol o ymdrin â'ch gwaith

Sylwch fod gwiriad DBS Uwch yn ofynnol ar gyfer y swydd hon gan ei bod hi'n golygu dod i gysylltiad â chyfranogwyr a chydweithwyr agored i niwed.

Yn gyfnewid am hyn, gallwch ddisgwyl cyflog cystadleuol, lwfans gwyliau hael, pensiwn staff, gweithio hyblyg, rhaglen fentora, gwasanaeth cyngor a chwnsela, sesiynau therapyddion clinigol, yswiriant bywyd (4x cyflog blynyddol), dyddiau 'duvet', benthyciad tocyn tymor, rhaglen fanteision gweithwyr, taleb gofal llygaid a llawer mwy.

Rydym yn gyflogwr ecwiti a chynhwysol. Rydym yn croesawu pob cais, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bobl o'r mwyafrif byd-eang (du, brown, aml-dreftadaeth) a'r rhai sy'n uniaethu fel anabl, niwro-eang, neu niwro-amrywiol, gydag unrhyw nodweddion gwarchodedig a/neu rwystrau neu heriau cymdeithasol. Rydym yn gwerthfawrogi'r effaith rymusol ac addysgiadol y gall pob profiad ymarferol ac amrywiaeth meddwl ei gynnig i'r sefydliad.

Bydd St Giles yn gwarantu cyfweliad i bob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y Disgrifiad Swydd ar gyfer y swydd wag hon.

Dyddiad cau: 07th July 2024. 11:00pm           Dyddiad cyfweliad: : 12th July 2024      

Posted on: 21 June 2024
Closing date: 07 July 2024 at 11:17
Job ref: PWA-241
Tags: Admin, Advice, Information, Social Care/Development, Advocacy, Social Work