Local Caseworker (North Wales)

Remote
£20,800 per year
Part-time (29 hours worked over 4 days)
Contract (12 months fixed term contract (with the possibility of extension depending on funding))

Using Anonymous Recruitment

This organisation is using Anonymous Recruitment to reduce bias in the first stages of the hiring process. Our system keeps your personal information hidden until the recruiter contacts you.

Job description

Location: To cover North Wales police force area 

Working pattern: Work from home with some travel required. You will be expected to deliver a face-to-face service to clients in their own home or safe meeting place within your region. 

There is an expectation that you will spend some time working from one or more than one of the following police stations, depending on your home location: 

  • LLAY  

  • ST ASAPH  

  • LLANDEGAI  

  • BLEANAU FFESTINIOG  

Further details will be provided at interview.  

Who we are 

We are Brake, the national, acclaimed road safety charity which provides the National Road Victim Service (NRVS). We have been supporting victims of the carnage on our roads since 1995. We also campaign for positive change to prevent future collisions and save lives. 

A rare and exciting opportunity to help us to help others 

Did you know that every 20 minutes, someone is killed or seriously injured on our roads? The impact of that on individuals and their wider families is profound and far reaching and it can happen to any of us, at any time. 

The National Road Victim Service is growing, allowing us to reach greater numbers of people in need and building upon our well-established foundation to create an enduring legacy. To support this growth we’re looking for a dedicated caseworker to become part of our enthusiastic, energised and dynamic team, delivering world-class support services to people at a time when they are most vulnerable. 

This is definitely not the average 9 to 5 job, and it is not every day that opportunities like this come along. You could be playing a significant part in our commitment to roll out our clinically developed, trauma informed support services across the country, making a positive contribution to the lives of those traumatically bereaved or seriously injured as a result of road traffic collisions. 

What we offer 

  • 36 days holiday (including bank holidays, pro rata for part-time working patterns) 

  • Employee Assistance Programme 

  • Flexible working 

  • Ongoing support including regular independent clinical supervision sessions 

  • Be an essential part of a skilled, dedicated and friendly team with a knowledgeable and engaged Board of Trustees 

Who you are 

We need energised, self-starters who are passionate about helping others, to join our fantastic team. 

We are looking for people who have a background in providing emotional support and practical research and advocacy for vulnerable people after a serious psychological trauma such as the death of a loved one in violent circumstances. 

Specifically we are seeking candidates with: 

  • experience of frontline care for people in crisis with acute vulnerabilities and risks (desirable but not essential) 

  • comprehensive understanding of the processes involved in the criminal justice system (desirable but not essential) 

  • research and advocacy skills – you get crucial things done through liaison with external agencies 

  • significant resilience, and willingness to be professionally developed and clinically supervised 

  • a full UK driving licence, with access to your own transport and are willing to use it for work purposes (we reimburse travelling expenses).  

Candidates must be able to speak Welsh. You will be expected to support families who are first language Welsh.  

We are interested in receiving applications, not to the exclusion of others, from candidates with experience supporting people who have suffered sudden bereavement or working with those with heightened vulnerabilities. 

Experience gained in the following kinds of roles tends to transfer well to the role of caseworker at Brake: police force, roles within the criminal justice system, family liaison officer, counsellor, experience in health and social care or previous caseworker experience in any area. 

The greatest reward comes from knowing you have made a real positive difference to someone’s recovery from psychological trauma, and the emotional or practical challenges presented by their sudden bereavement or serious injury. 

If you are seeking out a new challenge and think you have the skills, passion, and commitment that we are looking for, we would be interested in hearing from you. 

About the team and how we work 

  • Brake actively promotes equality, diversity, and inclusion. We employ based on skills and experience of candidates, irrespective of age, disability (including hidden disabilities), gender, gender identity or gender reassignment, marriage and civil partnership, pregnancy and maternity, race, religion or belief, or sexual orientation 

  • The successful candidate will be required to go through an enhanced DBS vetting process due to the sensitive nature of the service delivered. Additional police vetting may also be required (TBC) 

  • Please note we do not accept applications from serious traffic offenders due to the nature of our work. Employees are subject to driver licence checks. 

To apply 

Submit your CV and a covering letter which clearly demonstrate you have what it takes to perform this challenging and rewarding role.

Gweithiwr Achos Lleol (Gogledd Cymru) – Yn siarad Cymraeg 

  Oriau: 29 awr (4 diwrnod yr wythnos) rhwng 08:00-18:00 

Hyd cytundeb: Tymor penodedig 12 mis (gyda'r posibilrwydd o estyniad yn dibynnu ar gyllid) 

Cyflog: £20,800 

Lleoliad: Cwmpasu ardal Heddlu Gogledd Cymru 

Patrwm gweithio: Gweithio o'r cartref gyda rhywfaint o ofyn teithio. Bydd disgwyl i chi gyflawni gwasanaeth wyneb yn wyneb i gleientiaid yn eu cartref eu hunain neu fan cyfarfod diogel o fewn eich rhanbarth. 

  Mae disgwyl y byddwch yn treulio rhywfaint o amser yn gweithio o un neu fwy nag un o'r gorsafoedd heddlu canlynol, yn dibynnu ar lle rydych yn byw: 

  • LLAI 

  • LLANELWY 

  • LLANDYGAI 

  • BLAENAU FFESTINIOG 

Ceir manylion pellach yn y cyfarfod.  

Pwy ydym ni 

BRAKE ydym ni sef yr elusen diogelwch ffyrdd glodwiw genedlaethol sy'n darparu Gwasanaeth Cenedlaethol Dioddefwyr y Ffyrdd (NRVS). Rydym wedi bod yn cynorthwyo dioddefwyr lladdfeydd ar ein ffyrdd ers 1995. Rydym hefyd yn ymgyrchu am newid cadarnhaol er mwyn atal gwrthdrawiadau yn y dyfodol ac achub bywydau. 

Cyfle prin a chyffrous i'n cynorthwyo ni gynorthwyo pobl eraill 

Wyddoch chi fod rhywun yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd bob 20 munud? Mae effaith hynny ar unigolion a'u teuluoedd ehangach yn fawr a phellgyrhaeddol a gall ddigwydd i unrhyw un ohonom ni, unrhyw bryd. 

Mae Gwasanaeth Cenedlaethol Dioddefwyr y Ffyrdd yn tyfu, gan ganiatáu i ni gyrraedd mwy o bobl mewn angen ac ychwanegu at ein sylfaen sydd wedi hen sefydlu er mwyn creu gwaddol parhaol. Er mwyn cynorthwyo'r twf hwn, rydym yn chwilio am weithiwr achos penderfynol i ddod yn rhan o'n tîm brwdfrydig, egnïol a dynamig, gan gyflawni gwasanaethau cymorth o'r radd flaenaf i bobl ar adeg pan maent fwyaf bregus. 

Nid yw hon yn swydd 9 tan 5 gyffredin, ac nid ydy cyfleoedd fel hyn yn dod bob dydd. Gallech fod yn chwarae rhan sylweddol yn ein hymrwymiad i gyflwyno ein gwasanaethau cymorth trawma ledled y wlad sydd wedi'u datblygu'n glinigol. Gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau pobl sydd wedi profi galar trawmatig neu wedi'u hanafu'n ddifrifol oherwydd gwrthdrawiadau traffig ffordd. 

Yr hyn rydym yn ei gynnig 

  • 36 diwrnod o wyliau (gan gynnwys gwyliau banc, yn ôl yr un gyfradd am batrymau gweithio rhan amser) 

  • Rhaglen Cymorth Gweithwyr 

  • Gweithio hyblyg 

  • Cymorth parhaus gan gynnwys sesiynau goruchwylio clinigol annibynnol rheolaidd 

  • Bod yn rhan hanfodol o dîm sgilgar, penderfynol a chyfeillgar gyda Bwrdd Ymddiriedolwyr gwybodus ac ymroddedig 

Pwy ydych chi 

Rydym angen pobl egnïol a mentrus sy'n frwdfrydig ynghylch cynorthwyo pobl eraill i ymuno â'n tîm ffantastig. 

Rydym yn chwilio am bobl sydd â chefndir mewn darparu cymorth emosiynol ac ymchwil ac eiriolaeth ymarferol i bobl fregus ar ôl trawma seicolegol difrifol fel marwolaeth anwylyn mewn amgylchiadau treisgar. 

Yn benodol, rydym yn chwilio am ymgeiswyr gyda: 

  • profiad o ofal rheng flaen i bobl mewn argyfwng gyda bregusrwydd a risgiau dwys (dymunol ond nid hanfodol) 

  • dealltwriaeth gynhwysfawr o'r prosesau o dan sylw yn y system cyfiawnder troseddol (dymunol ond nid hanfodol) 

  • sgiliau ymchwil ac eiriolaeth – rydych yn cwblhau pethau hanfodol drwy gysylltu gydag asiantaethau allanol 

  • cadernid sylweddol a pharodrwydd i gael eich datblygu'n broffesiynol a'ch goruchwylio'n glinigol 

  • trwydded yrru lawn o'r DU, gyda mynediad at eich cludiant eich hun ac yn barod i'w ddefnyddio at ddibenion gwaith (rydym yn ad-dalu costau teithio). 

Rhaid i ymgeiswyr allu siarad Cymraeg. Bydd disgwyl i chi gefnogi teuluoedd sy'n iaith gyntaf Gymraeg. 

Mae gennym ddiddordeb derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr gyda phrofiad o gynorthwyo pobl sydd wedi dioddef galar sydyn neu brofiad o weithio gyda phobl gyda bregusrwydd dwysach. Nid yw hyn yn eithrio pobl eraill gyda llaw. 

Mae profiad yn y rolau canlynol yn tueddu trosglwyddo'n dda i rôl gweithiwr achos yn Brake: heddlu, rolau o fewn y system cyfiawnder troseddol, swyddog cyswllt teuluoedd, cwnselydd, profiad mewn gofal iechyd a chymdeithasol neu brofiad blaenorol fel gweithiwr achos mewn unrhyw faes. 

Daw'r wobr fwyaf o wybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gadarnhaol i adferiad rhywun o drawma seicolegol, a'r heriau emosiynol neu ymarferol a brofir gan eu galar sydyn neu anaf difrifol. 

Os ydych yn ceisio her newydd ac yn meddwl fod gennych y sgiliau, angerdd a'r ymrwymiad rydym yn chwilio amdano, byddem â diddordeb clywed gennych chi. 

Hanes y tîm a sut rydym yn gweithio 

  • Mae Brake o hyd yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn cyflogi ar sail sgiliau a phrofiad ymgeiswyr, waeth beth fo oedran, anabledd (gan gynnwys anableddau cudd), rhywedd, hunaniaeth rhywedd neu ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol. 

  • Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fynd drwy broses fetio DBS uwch oherwydd natur sensitif y gwasanaeth a gyflawnir. Efallai bydd angen fetio heddlu ychwanegol (i'w gadarnhau). 

  • Dalier sylw nad ydym yn derbyn ceisiadau gan droseddwyr traffig difrifol oherwydd natur ein gwaith. ⁠Mae gweithwyr yn destun gwiriadau trwyddedau gyrru. 

Er mwyn ymgeisio 

Cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol sy'n dangos yn glir fod gennych yr hyn sydd ei angen er mwyn cyflawni'r rôl heriol a gwerthfawr hon

Posted by
Brake View profile Company size 51 - 100

We work to stop road deaths and injuries, support people affected by road crashes and campaign for safe and healthy mobility for all.

Posted on: 10 September 2024
Closing date: 10 October 2024 at 20:47
Tags: Advice / Information, Advocacy, Bereavement Support, Safeguarding

The client requests no contact from agencies or media sales.