Rheolwr Partneriaeth – Cymru

Cardiff (Hybrid)
£36,000 per year
Full-time or part-time
Permanent

Actively Interviewing

This organisation is scheduling interviews as applications come in. They're ready to hire as soon as they find the right person. Don't miss your opportunity, apply now!

Job description

Rheolwr Partneriaeth – Cymru  

Lleoliad: Lleolir y swydd allan o swyddfeydd BookTrust yng Nghaerdydd. Mae BookTrust yn gweithio mewn modd hybrid a hyblyg gyda disgwyl i’r cyflogai dreulio o leiaf wyth diwrnod yn gweithio wyneb yn wyneb bob mis, a allai fod yn swyddfa Caerdydd, yn ymweld â phartneriaid ledled Cymru ac ar adegau yn teithio ledled y DU. Bydd angen teithio rhesymol i gyflawni'r rôl, felly, gydag angen i aros dros nos yn achlysurol.

Cytundeb: Llawn amser, gellid trafod opsiynau hyblyg a rhan amser.

Cyflog:  £36,000.00 y flwyddyn.

BookTrust yw elusen ddarllen fwyaf y DU i blant. Gwyddom fod plant sy'n darllen yn hapusach, iachach, yn fwy tosturiol, ac yn fwy creadigol. Maen nhw hefyd yn llwyddo’n well yn yr ysgol. Gan weithio gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyda chefnogaeth sawl cyllidwr gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Lloegr, a Llywodraethau Gogledd Iwerddon a Chymru, rydyn ni’n cyrraedd dros 3 miliwn o deuluoedd y flwyddyn gyda help partneriaid mewn ysgolion, canolfannau plant, ymwelwyr iechyd a llyfrgelloedd. Mae’r rhwydwaith anhygoel hwn yn ein helpu i gymell plant i ddarllen ledled y wlad.

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn cadarnhaol a brwdfrydig sy’n gallu dangos y gallu i adeiladu perthynas gyflenwi a strategol gref gydag ystod o randdeiliaid allanol, gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, awdurdodau lleol, sefydliadau yn y sector addysg ynghyd â sefydliadau cymdeithas sifil eraill. Bydd y rôl hefyd yn golygu sicrhau cyflawni set o raglenni a gweithgareddau BookTrust yn llwyddiannus, felly bydd meddu ar sgiliau trefnu cryf, profiad o gydweithio â thimau swyddogaethol mewnol gwahanol a bod yn drylwyr a manwl, yn nodweddion hanfodol.

Bydd y Rheolwr Partneriaeth hefyd yn cyfrannu at ddatblygu gweithgareddau a rhaglenni newydd ac yn arwain ar raglen hyfforddi a digwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol Cymru, felly byddai cael profiad o ddyfeisio a rhoi rhaglenni newydd a hyfforddiant ar waith o fantais.

I ymgeisio anfonwch gopi o’ch CV to booktrust ynghyd â llythyr cyflwyno sy’n dangos sut yr ydych chi’n ateb manyleb y person a’ch ysgogiad chi dros ymgeisio am y swydd. Ni ddylai eich llythyr cyflwyno fod yn hirach na dwy ochr.

Dyddiad Cau:  Gorffennaf 31ain 11:59pm.

Adolygir ceisiadau wrth iddyn nhw ddod i law. Anogir ceisiadau cynnar felly.

Ein Hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant

Ein nod yw darparu proses recriwtio gynhwysol ac rydym ni’n arbennig o barod i groesawu ceisiadau o gronfeydd talent amrywiol: ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, ymgeiswyr ag anableddau a chyflyrau hirdymor ac ymgeiswyr o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Rydym wedi ymrwymo i gyfleoedd cyfartal a hoffem sicrhau bod gennym broses ymgeisio sy’n hygyrch i bob ymgeisydd. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch neu os hoffech chi i ni wneud unrhyw beth yn wahanol yn ystod y broses ymgeisio, cysylltwch â’n tîm Adnoddau Dynol.

Mae BookTrust wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Mae'r broses recriwtio a dethol yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiogelu, felly bydd addasrwydd yr holl ddarpar weithwyr yn cael ei asesu yn ystod y broses recriwtio yn unol â'r ymrwymiad hwn, a gwiriadau cyn cyflogaeth.

Application resources
Posted by
BookTrust View profile Company size Size: 51 - 100
Posted on: 01 July 2024
Closing date: 31 July 2024 at 00:00
Tags: Management